MAE’R Gweinidog dros Dreftadaeth Alun Ffred Jones wedi lansio ar gyfer ymgynghoriad strategaeth ddrafft i hyrwyddo’r Gymraeg fel iaith ffyniannus sy’n cael ei siarad bob dydd.
Iaith Fyw: Iaith Byw yw Strategaeth arfaethedig newydd Llywodraeth Cynulliad Cymru ar y Gymraeg, a gafodd ei lansio ar gyfer ymgynghoriad yn Llanrwst yr wythnos diwethaf.
Meddai Mr Jones: “Er gwaethaf y cyfrifiad diwethaf a oedd yn dangos bod sefyllfa’r iaith yn addawol, yn enwedig ymhlith pobl ifanc, mae’n dal i fod yn ansicr.
“Nod y strategaeth ddrafft yw adeiladu ar lwyddiannau Iaith Pawb a Llywodraeth Cymru’n Un i gynyddu nifer y bobl ledled Cymru sy’n gallu siarad Cymraeg ac yn dewis gwneud hynny.”
Nid yw’r strategaeth hon yn sefyll ar ei phen ei hun.
Ynghyd â’r Mesur ar y Gymraeg a’r Strategaeth ar Addysg Cyfrwng Cymraeg a gafodd eu cymeradwyo’n ddiweddar, bydd y strategaeth hon yn helpu i wireddu gweledigaeth y Llywodraeth hon ar gyfer Cymru wirioneddol ddwyieithog.
“Mae bron i bawb sy’n siarad Cymraeg yn rhugl yn siarad yr iaith bob dydd, ond mae angen rhagor o gyfleoedd arnyn nhw i ddefnyddio’r iaith ym mhob agwedd ar fywyd,” ychwanegodd Mr Jones.
“Er enghraifft, dros y ganrif ddiwethaf rydyn ni wedi colli llawer o’r gweithleoedd lle câi’r Gymraeg ei defnyddio’n naturiol. Un o heriau’r strategaeth hon fydd creu ystod eang o gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith bob dydd eto.
“Her fawr arall fydd ysbrydoli plant a phobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg a chreu’r cyfle iddyn nhw fagu hyder ac ymfalchïo yn y ffaith eu bod yn defnyddio’r iaith bob dydd.
“Dw i’n ddiolchgar i Fwrdd yr Iaith Gymraeg am ei gyfraniad gwerthfawr at y gwaith o ddrafftio’r strategaeth hon, a dw i’n gobeithio y bydd hyn yn ein helpu ni i ddatblygu’r gwaith da y mae wedi’i wneud dros y blynyddoedd. Dw i’n edrych ymlaen at glywed barn pobl am ein strategaeth.”
Dywedodd cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg Meri Huws: “Bu’n fraint cydweithio a’r Llywodraeth ar baratoi’r strategaeth hon, ac rwy’n falch o’r cyfle i gymryd rhan yn y lansiad.
“Mae’r strategaeth yn adeiladu ar yr ewyllys da cynyddol sydd yna tuag at yr iaith, ac mae’n gosod allan y llwybr i ni o ran sicrhau y bydd y Gymraeg yn blodeuo ym mhob agwedd ar fywyd yng Nghymru.
“Mae’r strategaeth yn cydnabod pwysigrwydd gweithio yn y gymuned, boed hynny yn y Gymru wledig neu yn y Gymru drefol, mewn ffordd sy’n adlewyrchu anghenion arbennig ardaloedd arbennig.”
Ymhlith prif argymhellion y strategaeth ddrafft mae: Creu Ardaloedd Datblygu Iaith ar draws Cymru mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, mentrau iaith a sefydliadau eraill; Datblygu prosiect trefi a dinasoedd dwyieithog er mwyn hyrwyddo’r defnydd o’r iaith mewn lleoliadau trefol; Datblygu cynllun cyflawni’r Gymraeg ar gyfer y grwp oedran 0-5 oed.