BU 12 o wirfoddolwyr treftadaeth o Ddinbych ar ‘Daith Ddysgu’ i’r Llyfrgell Genedlaethol yn ddiweddar i weld arddangosfa oedd yn dathlu 450 mlynedd ers marwolaeth Humphrey Llwyd.

Cafwyd yno sgwrs gan E Gwynn Matthews, a oedd yn rhoi darlun o fywyd Llwyd, a rhoddwyd cyflwyniad i’r grwp gan Huw Thomas, o adran fapiau’r llyfrgell.

Disgrifiwyd Humphrey Llwyd gan Saunders Lewis fel “un o ddyneiddwyr pwysicaf Cymru a ffigwr allweddol yn hanes y Dadeni yng Nghymru”.

Mae yna bellach prosiect dan nawdd Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, “Humphrey Llwyd – Inventor of Britain”, a’r flwyddyn nesaf bydd canlyniadau’r prosiect yn cael eu dangos ochr yn ochr ag arddangosfa am Llwyd yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Cyllidwyd y daith ddysgu i’r gwirfoddolwyr drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.