MAE'R hydref yn gyfnod prysur yn yr ardd, wrth geisio gwneud y gorau o'r planhigion sy'n dal i ffynnu, a pharatoi am y misoedd oer.

Mae criw brwd Garddio a Mwy yn ein harwain drwy'r tymor newydd mewn cyfres arall sydd newydd ddechrau nos Lun diwethaf ar S4C.

Felly, pa gyngor sydd gan un o arbenigwyr y gyfres, Iwan Edwards o Ddyffryn Clwyd, i wylwyr?

Pa gnydau fyddi di'n eu tyfu y tymor hwn Iwan?

Mi all rhywun blannu a chynhaeafu sbigoglys neu letys ar hyd y flwyddyn, yn enwedig os oes gennych chi dy gwydr. Mae rhuddygl yn dyfwr cyflym iawn hefyd a dydy hi ddim yn rhy hwyr chwaith i dyfu swej neu rwdan a maip.

Beth ddylai pobl ei wneud i adfywio'r lawnt ar ôl haf hir?

Ewch â fforch at y lawnt i ysgafnhau'r pridd ac i wella draeniad dwr glaw sy'n cario maeth ac ocsigen at y gwreiddiau blinedig. Hadu sydd yn rhoi'r lawnt gorau hir dymor ond mae tywarch newydd yn creu lawnt dros nos.

Beth all y gwylwyr edrych ymlaen ato yn y gyfres yma?

Bydd gerddi newydd yn cael eu creu dros nos, bydd Meinir yn dangos sut i greu pwll ac mi fydda i'n brysur yn cynaeafu. Dwi'n edrych ymlaen at ddefnyddio blodau llewyg y blaidd (Hops) i roi blas ar seidr wedi'i wneud o'r afalau ym mherllan Pont y Twr!

Garddio a Mwy:

Nos Lun (8.25 ar S4C)

Ar alw: S4C Clic a BBC iPlayer