MAE Eisteddfod Genedlaethol Cymru i ddychwelyd i Sir Ddinbych yn 2013.
 

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd mai Sir Ddinbych fydd cartref yr Eisteddfod Genedlaethol o Awst 3-10, 2013, gyda’r Brifwyl yn dychwelyd i dir Fferm Kilford ger Dinbych, cartref yr Eisteddfod ddegawd yn ôl yn 2001.
 

Meddai prif weithredwr yr Eisteddfod Elfed Roberts: “Rydym yn falch o gyhoeddi y byddwn yn ymweld â Dinbych ymhen dwy flynedd, gan edrych ymlaen i gynnal yr Eisteddfod ar dir Fferm Kilford.
 

“Mae’n safle arbennig o dda, ac yn un a fu’n boblogaidd iawn gydag ymwelwyr yn 2001. Bu’r Eisteddfod honno’n llwyddiannus ac felly fe fydd yn braf iawn dychwelyd yno yn 2013.”
 

Ychwanegodd: “Mae pobl ardal Dinbych wedi bod yn awyddus i gynnig cartref i’r Eisteddfod ers tipyn, felly mae’n braf iawn bod mewn sefyllfa i gyhoeddi lleoliad yr Eisteddfod.
 

“Rydym yn gobeithio cychwyn ar y paratoadau’n fuan, a byddwn yn galw cyfarfod cyhoeddus cyn y Pasg er mwyn ennyn cefnogaeth pobl ym mhob rhan o’r sir, gan edrych ymlaen i gydweithio eto gyda thrigolion yr ardal.”
 

Mae cyngor tref Dinbych yn croesawu’r newyddion fod yr Eisteddfod am ddychwelyd i Ddinbych.
 

Dywododd clerc y dref Medwyn Jones: “Y tro diwethaf y bu yma yn 2001 fe amharwyd rhywfaint ar yr wyl gan y clwy’r traed a gennau ac ni chafod y dref a’r ardal y cyfle i wir ddangos beth y gallent ei gyflawni.
 

“Mae’r cyngor tref wedi rhoddi llawer o waith i mewn i geisio cael yr Eisteddfod yn ôl i’r dref ac yn falch iawn fod y freuddwyd wedi ei gwireddu.
 

“Mi fydd yna dipyn o dasg o’n blaenau ond rwy’n siwr y gwnaiff Dinbych ei orau a bydd yn Eisteddfod lwyddiannus a byth gofiadwy.”
 

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi rhoi croeso cynnes i’r newyddion y bydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn cael ei llwyfannu yn Nyffryn Clwyd yn 2013.
 

Dywedodd arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, y Cyng Hugh Evans: “Rydym yn hynod falch bod yr Eisteddfod yn dod yn ôl i Sir Ddinbych.
 

“Roedd yr wyl pan ddaeth hi i’n sir ni y tro diwethaf yn 2001 yn llwyddiant ysgubol. Mae’n gyfle gwych i ni hyrwyddo a marchnata ein sir ni i gyNeidfa cenedlaethol ac mi fyddwn yn edrych ymlaen at gael croesawu pobl o bob cwr o Gymru i gael blas o’r hyn rydym yn ei gynnig.
 

“Rwan fydd y gwaith caled yn cychwyn ac rydym yn edrych ymlaen at gael cydweithio gyda swyddogion yr Eisteddfod, y gymuned leol yn Ninbych a chymunedau eraill ledled y sir i groesawu’r digwyddiad i Ddyffryn Clwyd ymhen dwy flynedd.”